Exodus 38:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac efe a wnaeth allor y poethoffrwm o goed Sittim: o bum cufydd ei hyd, a phum cufydd ei lled, yn bedeirongl; ac yn dri chufydd ei huchder.

2. Gwnaeth hefyd ei chyrn hi ar ei phedair congl: ei chyrn hi oedd o'r un; ac efe a'i gwisgodd hi â phres.

3. Efe a wnaeth hefyd holl lestri yr allor, y crochanau, a'r rhawiau, a'r cawgiau, a'r cigweiniau, a'r pedyll tân: ei holl lestri hi a wnaeth efe o bres.

Exodus 38