Exodus 37:13-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Ac efe a fwriodd iddo bedair modrwy o aur; ac a roddodd y modrwyau wrth ei bedair congl, y rhai oedd yn ei bedwar troed.

14. Ar gyfer y cylch yr oedd y modrwyau, yn lle i'r trosolion i ddwyn y bwrdd.

15. Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim, ac a'u gwisgodd hwynt ag aur i ddwyn y bwrdd.

16. Efe a wnaeth hefyd y llestri fyddai ar y bwrdd, ei ddysglau ef, a'i lwyau, a'i ffiolau, a'i gaeadau i gau รข hwynt, o aur pur.

17. Ac efe a wnaeth ganhwyllbren o aur coeth; o un dryll cyfan y gwnaeth efe y canhwyllbren, ei baladr, ei geinciau, ei bedyll, ei gnapiau, a'i flodau, oedd o'r un.

18. A chwech o geinciau yn myned allan o'i ystlysau: tair cainc o'r canhwyllbren o un ystlys, a thair cainc o'r canhwyllbren o'r ystlys arall.

19. Tair padell ar waith almonau, cnap a blodeuyn oedd ar un gainc; a thair padell o waith almonau, cnap a blodeuyn ar gainc arall: yr un modd yr oedd ar y chwe chainc, y rhai oedd yn dyfod allan o'r canhwyllbren.

20. Ac ar y canhwyllbren yr oedd pedair padell o waith almonau, ei gnapiau a'i flodau.

Exodus 37