1. A Besaleel a wnaeth yr arch o goed Sittim; o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei lled, a chufydd a hanner ei huchder.
2. Ac a'i gwisgodd hi ag aur pur o fewn ac oddi allan; ac a wnaeth iddi goron o aur o amgylch.
3. Ac a fwriodd iddi bedair modrwy o aur ar ei phedair congl: sef dwy fodrwy ar ei naill ystlys, a dwy fodrwy ar ei hystlys arall.
4. Efe a wnaeth hefyd drosolion o goed Sittim, ac a'u gwisgodd hwynt ag aur.
5. Ac a osododd y trosolion trwy'r modrwyau ar ystlysau yr arch, i ddwyn yr arch.
6. Ac efe a wnaeth y drugareddfa o aur coeth; o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei lled.
7. Ac efe a wnaeth ddau geriwb aur: o un dryll cyfan y gwnaeth efe hwynt, ar ddau ben y drugareddfa;
8. Un ceriwb ar y pen o'r tu yma, a cheriwb arall ar y pen o'r tu arall: o'r drugareddfa y gwnaeth efe y ceriwbiaid, ar ei dau ben hi.
9. A'r ceriwbiaid oeddynt, gan ledu esgyll tuag i fyny, a'u hesgyll yn gorchuddio'r drugareddfa, a'u hwynebau bob un at ei gilydd: wynebau'r ceriwbiaid oedd tuag at y drugareddfa.
10. Ac efe a wnaeth fwrdd o goed Sittim: dau gufydd ei hyd, a chufydd ei led, a chufydd a hanner ei uchder.
11. Ac a osododd aur pur drosto, ac a wnaeth iddo goron o aur o amgylch.
12. Gwnaeth hefyd iddo gylch o amgylch o led llaw; ac a wnaeth goron o aur ar ei gylch o amgylch.
13. Ac efe a fwriodd iddo bedair modrwy o aur; ac a roddodd y modrwyau wrth ei bedair congl, y rhai oedd yn ei bedwar troed.