7. Canys yr ydoedd digon o ddefnydd i'r holl waith i'w wneuthur, a gweddill.
8. A'r holl rai celfydd, o'r rhai oedd yn gweithio gwaith y tabernacl, a wnaethant ddeg llen o liain main cyfrodedd, a sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad: â cheriwbiaid o waith cywraint y gwnaethant hwynt.
9. Hyd un llen oedd wyth gufydd ar hugain; a lled un llen pedwar cufydd: yr un mesur oedd i'r holl lenni.
10. Ac efe a gydiodd bum llen wrth ei gilydd; ac a gydiodd y pum llen eraill wrth ei gilydd.
11. Ac efe a wnaeth ddolennau o sidan glas ar ymyl un llen, ar ei chwr eithaf yn y cydiad: felly y gwnaeth efe ar ymyl llen arall, yng nghydiad yr ail.
12. Deg dolen a deugain a wnaeth efe ar un llen, a deg dolen a deugain a wnaeth efe yn y cwr eithaf i'r llen ydoedd yng nghydiad yr ail: y dolennau oedd yn dal y naill len wrth y llall.
13. Ac efe a wnaeth ddeg a deugain o fachau aur, ac a gydiodd y naill len wrth y llall â'r bachau; fel y byddai yn un tabernacl.
14. Efe a wnaeth hefyd lenni o flew geifr, i fod yn babell‐len ar y tabernacl: yn un llen ar ddeg y gwnaeth efe hwynt.
15. Hyd un llen oedd ddeg cufydd ar hugain, a lled un llen oedd bedwar cufydd: a'r un mesur oedd i'r un llen ar ddeg.
16. Ac efe a gydiodd bum llen wrthynt eu hunain, a chwe llen wrthynt eu hunain.
17. Efe a wnaeth hefyd ddeg dolen a deugain ar ymyl eithaf y llen yn y cydiad; a deg dolen a deugain a wnaeth efe ar ymyl y llen yng nghydiad yr ail.
18. Ac efe a wnaeth ddeg a deugain o fachau pres, i gydio y babell‐len i fod yn un.