Exodus 36:33-35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

33. Ac efe a wnaeth y bar canol i gyrhaeddyd trwy'r ystyllod o gwr i gwr.

34. Ac efe a osododd aur dros yr ystyllod, ac a wnaeth eu modrwyau hwynt o aur, i fyned am y barrau; ac a wisgodd y barrau ag aur.

35. Ac efe a wnaeth wahanlen o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd: รข cheriwbiaid o waith cywraint y gwnaeth efe hi.

Exodus 36