Exodus 36:12-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Deg dolen a deugain a wnaeth efe ar un llen, a deg dolen a deugain a wnaeth efe yn y cwr eithaf i'r llen ydoedd yng nghydiad yr ail: y dolennau oedd yn dal y naill len wrth y llall.

13. Ac efe a wnaeth ddeg a deugain o fachau aur, ac a gydiodd y naill len wrth y llall â'r bachau; fel y byddai yn un tabernacl.

14. Efe a wnaeth hefyd lenni o flew geifr, i fod yn babell‐len ar y tabernacl: yn un llen ar ddeg y gwnaeth efe hwynt.

15. Hyd un llen oedd ddeg cufydd ar hugain, a lled un llen oedd bedwar cufydd: a'r un mesur oedd i'r un llen ar ddeg.

16. Ac efe a gydiodd bum llen wrthynt eu hunain, a chwe llen wrthynt eu hunain.

17. Efe a wnaeth hefyd ddeg dolen a deugain ar ymyl eithaf y llen yn y cydiad; a deg dolen a deugain a wnaeth efe ar ymyl y llen yng nghydiad yr ail.

18. Ac efe a wnaeth ddeg a deugain o fachau pres, i gydio y babell‐len i fod yn un.

19. Ac efe a wnaeth do i'r babell‐len o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a tho o grwyn daearfoch yn uchaf.

20. Ac efe a wnaeth ystyllod i'r tabernacl o goed Sittim, yn eu sefyll.

21. Deg cufydd oedd hyd ystyllen; a chufydd a hanner cufydd lled pob ystyllen.

22. Dau dyno oedd i'r un ystyllen, wedi eu gosod mewn trefn, y naill ar gyfer y llall: felly y gwnaeth efe i holl ystyllod y tabernacl.

23. Ac efe a wnaeth ystyllod i'r tabernacl; ugain ystyllen i'r tu deau, tua'r deau.

24. A deugain mortais arian a wnaeth efe dan yr ugain ystyllen: dwy fortais dan un ystyllen i'w dau dyno, a dwy fortais dan ystyllen arall i'w dau dyno.

Exodus 36