Exodus 34:11-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Cadw yr hyn a orchmynnais i ti heddiw: wele, mi a yrraf allan o'th flaen di yr Amoriad, a'r Canaanead, a'r Hethiad, a'r Pheresiad, yr Hefiad hefyd, a'r Jebusiad.

12. A chadw arnat, rhag gwneuthur cyfamod รข phreswylwyr y wlad yr wyt yn myned iddi; rhag eu bod yn fagl yn dy blith.

13. Eithr dinistriwch eu hallorau hwynt, drylliwch eu delwau hwynt, a thorrwch i lawr eu llwynau hwynt.

14. Canys ni chei ymgrymu i dduw arall: oblegid yr Arglwydd, Eiddigus yw ei enw; Duw eiddigus yw efe;

Exodus 34