Exodus 33:12-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. A Moses a ddywedodd wrth yr Arglwydd, Gwêl, ti a ddywedi wrthyf, Dwg y bobl yma i fyny; ac ni ddangosaist i mi yr hwn a anfoni gyda mi: a thi a ddywedaist, Mi a'th adwaen wrth dy enw, a chefaist hefyd ffafr yn fy ngolwg.

13. Yn awr gan hynny, o chefais ffafr yn dy olwg, hysbysa i mi dy ffordd, atolwg, fel y'th adwaenwyf, ac fel y caffwyf ffafr yn dy olwg: gwêl hefyd mai dy bobl di yw y genedl hon.

14. Yntau a ddywedodd, Fy wyneb a gaiff fyned gyda thi, a rhoddaf orffwystra i ti.

15. Ac efe a ddywedodd wrtho, Onid â dy wyneb gyda ni, nac arwain ni i fyny oddi yma.

16. Canys pa fodd y gwyddir yma gael ohonof fi ffafr yn dy olwg, mi a'th bobl? onid trwy fyned ohonot ti gyda ni? Felly myfi a'th bobl a ragorwn ar yr holl bobl sydd ar wyneb y ddaear.

17. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Gwnaf hefyd y peth hyn a leferaist: oblegid ti a gefaist ffafr yn fy ngolwg, a mi a'th adwaen wrth dy enw.

18. Yntau a ddywedodd, Dangos i mi, atolwg, dy ogoniant.

Exodus 33