Exodus 33:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Cerdda, dos i fyny oddi yma, ti a'r bobl a ddygaist i fyny o wlad yr Aifft, i'r wlad am yr hon y tyngais wrth Abraham, Isaac, a Jacob, gan ddywedyd, I'th had di y rhoddaf hi.

2. A mi a anfonaf angel o'th flaen di; ac a yrraf allan y Canaanead, yr Amoriad, a'r Hethiad, y Pheresiad, yr Hefiad, a'r Jebusiad:

3. I wlad yn llifeirio o laeth a mĂȘl: oherwydd nid af fi i fyny yn dy blith; oblegid pobl wargaled wyt: rhag i mi dy ddifa ar y ffordd.

Exodus 33