5. A phan ei gwelodd Aaron, efe a adeiladodd allor ger ei fron ef: ac Aaron a gyhoeddodd, ac a ddywedodd, Y mae gŵyl i'r Arglwydd yfory.
6. A hwy a godasant yn fore drannoeth, ac a offrymasant boethoffrymau, ac a ddygasant aberthau hedd: a'r bobl a eisteddasant i fwyta ac i yfed, ac a godasant i fyny i chwarae.
7. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cerdda, dos i waered: canys ymlygrodd dy bobl a ddygaist i fyny o dir yr Aifft.
8. Buan y ciliasant o'r ffordd a orchmynnais iddynt: gwnaethant iddynt lo tawdd, ac addolasant ef, ac aberthasant iddo; dywedasant hefyd, Dyma dy dduwiau di, Israel, y rhai a'th ddygasant i fyny o wlad yr Aifft.
9. Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Gwelais y bobl hyn; ac wele, pobl wargaled ydynt.
10. Am hynny yn awr gad i mi lonydd, fel yr enynno fy llid yn eu herbyn, ac y difethwyf hwynt: a mi a'th wnaf di yn genhedlaeth fawr.
11. A Moses a ymbiliodd gerbron yr Arglwydd ei Dduw, ac a ddywedodd, Paham, Arglwydd, yr enynna dy ddigofaint yn erbyn dy bobl, y rhai a ddygaist allan o wlad yr Aifft, trwy nerth mawr, a llaw gadarn?
12. Paham y caiff yr Eifftiaid lefaru, gan ddywedyd, Mewn malais y dygodd efe hwynt allan, i'w lladd yn y mynyddoedd, ac i'w difetha oddi ar wyneb y ddaear? Tro oddi wrth angerdd dy ddigofaint, a bydded edifar gennyt y drwg a amcenaist i'th bobl.
13. Cofia Abraham, Isaac, ac Israel, dy weision, y rhai y tyngaist wrthynt i ti dy hun, ac y dywedaist wrthynt, Mi a amlhaf eich had chwi fel sêr y nefoedd; a'r holl wlad yma yr hon a ddywedais, a roddaf i'ch had chwi, a hwy a'i hetifeddant byth.
14. Ac edifarhaodd ar yr Arglwydd am y drwg a ddywedasai efe y gwnâi i'w bobl.