Exodus 32:32-35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

32. Ac yn awr, os maddeui eu pechod; ac os amgen, dilea fi, atolwg, allan o'th lyfr a ysgrifennaist.

33. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pwy bynnag a bechodd i'm herbyn, hwnnw a ddileaf allan o'm llyfr.

34. Am hynny dos yn awr, arwain y bobl i'r lle a ddywedais wrthyt: wele, fy angel a â o'th flaen di: a'r dydd yr ymwelwyf, yr ymwelaf â hwynt am eu pechod.

35. A'r Arglwydd a drawodd y bobl, am iddynt wneuthur y llo a wnaethai Aaron.

Exodus 32