Exodus 30:15-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Ni rydd y cyfoethog fwy, ac ni rydd y tlawd lai, na hanner sicl, wrth roddi offrwm i'r Arglwydd, i wneuthur cymod dros eich eneidiau.

16. A chymer yr arian cymod gan feibion Israel, a dod hwynt i wasanaeth pabell y cyfarfod; fel y byddant yn goffadwriaeth i feibion Israel gerbron yr Arglwydd, i wneuthur cymod dros eich eneidiau.

17. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

18. Gwna noe bres, a'i throed o bres, i ymolchi: a dod hi rhwng pabell y cyfarfod a'r allor: a dod ynddi ddwfr.

19. A golched Aaron a'i feibion ohoni eu dwylo a'u traed.

20. Pan ddelont i babell y cyfarfod, ymolchant รข dwfr, fel na byddont feirw; neu pan ddelont wrth yr allor i weini, gan arogldarthu aberth tanllyd i'r Arglwydd.

21. Golchant eu dwylo a'u traed, fel na byddont feirw: a bydded hyn iddynt yn ddeddf dragwyddol, iddo ef, ac i'w had, trwy eu cenedlaethau.

Exodus 30