Exodus 3:5-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Ac efe a ddywedodd, Na nesâ yma: diosg dy esgidiau oddi am dy draed; oherwydd y lle yr wyt ti yn sefyll arno sydd ddaear sanctaidd.

6. Ac efe a ddywedodd, Myfi yw Duw dy dad, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob. A Moses a guddiodd ei wyneb; oblegid ofni yr ydoedd edrych ar Dduw.

7. A dywedodd yr Arglwydd, Gan weled y gwelais gystudd fy mhobl sydd yn yr Aifft, a'u gwaedd o achos eu meistriaid gwaith a glywais; canys mi a wn oddi wrth eu doluriau.

8. A mi a ddisgynnais i'w gwaredu hwy o law yr Eifftiaid, ac i'w dwyn o'r wlad honno i wlad dda a helaeth, i wlad yn llifeirio o laeth a mêl; i le y Canaaneaid, a'r Hethiaid, a'r Amoriaid, a'r Pheresiaid, yr Hefiaid hefyd, a'r Jebusiaid.

9. Ac yn awr wele, gwaedd meibion Israel a ddaeth ataf fi; a hefyd mi a welais y gorthrymder â'r hwn y gorthrymodd yr Eifftiaid hwynt.

10. Tyred gan hynny yn awr, a mi a'th anfonaf at Pharo; fel y dygech fy mhobl, plant Israel, allan o'r Aifft.

11. A dywedodd Moses wrth Dduw, Pwy ydwyf fi, fel yr awn i at Pharo, ac y dygwn blant Israel allan o'r Aifft?

12. Dywedodd yntau, Diau y byddaf gyda thi; a hyn a fydd arwydd i ti, mai myfi a'th anfonodd: Wedi i ti ddwyn fy mhobl allan o'r Aifft, chwi a wasanaethwch Dduw ar y mynydd hwn.

13. A dywedodd Moses wrth Dduw, Wele, pan ddelwyf fi at feibion Israel, a dywedyd wrthynt, Duw eich tadau a'm hanfonodd atoch; os dywedant wrthyf, Beth yw ei enw ef? beth a ddywedaf fi wrthynt?

14. A Duw a ddywedodd wrth Moses, YDWYF YR HWN YDWYF: dywedodd hefyd, Fel hyn yr adroddi wrth feibion Israel; YDWYF a'm hanfonodd atoch.

Exodus 3