Exodus 29:4-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Dwg hefyd Aaron a'i feibion i ddrws pabell y cyfarfod, a golch hwynt â dwfr.

5. A chymer y gwisgoedd, a gwisg am Aaron y bais, a mantell yr effod, a'r effod hefyd, a'r ddwyfronneg; a gwregysa ef â gwregys yr effod.

6. A gosod y meitr ar ei ben ef, a dod y goron gysegredig ar y meitr.

7. Yna y cymeri olew yr eneiniad, ac y tywellti ar ei ben ef, ac yr eneini ef.

8. A dwg ei feibion ef, a gwisg beisiau amdanynt.

9. A gwregysa hwynt â gwregysau, sef Aaron a'i feibion, a gwisg hwynt â chapiau: a bydd yr offeiriadaeth iddynt yn ddeddf dragwyddol: a thi a gysegri Aaron a'i feibion.

10. A phâr ddwyn y bustach gerbron pabell y cyfarfod; a rhodded Aaron a'i feibion eu dwylo ar ben y bustach.

11. A lladd y bustach gerbron yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod.

12. A chymer o waed y bustach, a dod ar gyrn yr allor â'th fys; a thywallt yr holl waed arall wrth droed yr allor.

13. Cymer hefyd yr holl fraster a fydd yn gorchuddio'r perfedd, a'r rhwyden a fyddo ar yr afu, a'r ddwy aren, a'r braster a fyddo arnynt, a llosg ar yr allor.

14. Ond cig y bustach, a'i groen, a'i fiswail, a losgi mewn tân, o'r tu allan i'r gwersyll: aberth dros bechod yw.

15. Cymer hefyd un hwrdd; a gosoded Aaron a'i feibion eu dwylo ar ben yr hwrdd.

16. A lladd yr hwrdd; a chymer ei waed ef, a thaenella ar yr allor o amgylch.

17. A thor yr hwrdd yn ddarnau; a golch ei berfedd, a'i draed, a dod hwynt ynghyd â'i ddarnau, ac â'i ben.

Exodus 29