1. Dyma hefyd yr hyn a wnei di iddynt i'w cysegru hwynt, i offeiriadu i mi. Cymer un bustach ieuanc, a dau hwrdd perffeithgwbl,
2. A bara croyw, a theisennau croyw wedi eu cymysgu ag olew, ac afrllad croyw wedi eu hiro ag olew: o beilliaid gwenith y gwnei hwynt.
3. A dod hwynt mewn un cawell, a dwg hwynt yn y cawell, gyda'r bustach a'r ddau hwrdd.
4. Dwg hefyd Aaron a'i feibion i ddrws pabell y cyfarfod, a golch hwynt â dwfr.
5. A chymer y gwisgoedd, a gwisg am Aaron y bais, a mantell yr effod, a'r effod hefyd, a'r ddwyfronneg; a gwregysa ef â gwregys yr effod.
6. A gosod y meitr ar ei ben ef, a dod y goron gysegredig ar y meitr.
7. Yna y cymeri olew yr eneiniad, ac y tywellti ar ei ben ef, ac yr eneini ef.
8. A dwg ei feibion ef, a gwisg beisiau amdanynt.
9. A gwregysa hwynt â gwregysau, sef Aaron a'i feibion, a gwisg hwynt â chapiau: a bydd yr offeiriadaeth iddynt yn ddeddf dragwyddol: a thi a gysegri Aaron a'i feibion.
10. A phâr ddwyn y bustach gerbron pabell y cyfarfod; a rhodded Aaron a'i feibion eu dwylo ar ben y bustach.
11. A lladd y bustach gerbron yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod.
12. A chymer o waed y bustach, a dod ar gyrn yr allor â'th fys; a thywallt yr holl waed arall wrth droed yr allor.
13. Cymer hefyd yr holl fraster a fydd yn gorchuddio'r perfedd, a'r rhwyden a fyddo ar yr afu, a'r ddwy aren, a'r braster a fyddo arnynt, a llosg ar yr allor.
14. Ond cig y bustach, a'i groen, a'i fiswail, a losgi mewn tân, o'r tu allan i'r gwersyll: aberth dros bechod yw.
15. Cymer hefyd un hwrdd; a gosoded Aaron a'i feibion eu dwylo ar ben yr hwrdd.