8. A gwregys cywraint ei effod ef yr hwn fydd arni, fydd o'r un, yn unwaith â hi; o aur, sidan glas, a phorffor, ysgarlad hefyd, a lliain main cyfrodedd.
9. Cymer hefyd ddau faen onics, a nadd ynddynt enwau meibion Israel:
10. Chwech o'u henwau ar un maen, a'r chwech enw arall ar yr ail faen, yn ôl eu genedigaeth.
11. A gwaith naddwr mewn maen, fel naddiadau sêl, y neddi di y ddau faen, ag enwau meibion Israel: gwna hwynt â boglynnau o aur o'u hamgylch.
12. A gosod y ddau faen ar ysgwyddau yr effod, yn feini coffadwriaeth i feibion Israel. Ac Aaron a ddwg eu henwau hwynt gerbron yr Arglwydd ar ei ddwy ysgwydd, yn goffadwriaeth.
13. Gwna hefyd foglynnau aur;
14. A dwy gadwyn o aur coeth yn eu pennau: o blethwaith y gwnei hwynt; a dod y cadwynau plethedig ynglŷn wrth y boglynnau.
15. Gwna hefyd ddwyfronneg barnedigaeth, o waith cywraint; ar waith yr effod y gwnei hi: o aur, sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd, y gwnei hi.
16. Pedeirongl fydd hi yn ddau ddyblyg; yn rhychwant ei hyd, ac yn rhychwant ei lled.
17. Llanw hi yn llawn o feini, sef pedair rhes o feini: un rhes fydd sardius, a thopas, a smaragdus: hyn fydd y rhes gyntaf.