Exodus 28:3-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. A dywed wrth yr holl rai doeth o galon, y rhai a lenwais i ag ysbryd doethineb, am wneuthur ohonynt ddillad Aaron i'w sancteiddio ef, i offeiriadu i mi.

4. A dyma y gwisgoedd a wnânt. Dwyfronneg, ac effod, mantell hefyd, a phais o waith edau a nodwydd, meitr, a gwregys: felly y gwnânt wisgoedd sanctaidd i Aaron dy frawd, ac i'w feibion, i offeiriadu i mi.

5. Cymerant gan hynny aur, a sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main.

6. A gwnânt yr effod o aur, sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd, o waith cywraint.

7. Dwy ysgwydd fydd iddi wedi eu cydio wrth ei dau gwr; ac felly y cydir hi ynghyd.

8. A gwregys cywraint ei effod ef yr hwn fydd arni, fydd o'r un, yn unwaith â hi; o aur, sidan glas, a phorffor, ysgarlad hefyd, a lliain main cyfrodedd.

9. Cymer hefyd ddau faen onics, a nadd ynddynt enwau meibion Israel:

10. Chwech o'u henwau ar un maen, a'r chwech enw arall ar yr ail faen, yn ôl eu genedigaeth.

11. A gwaith naddwr mewn maen, fel naddiadau sêl, y neddi di y ddau faen, ag enwau meibion Israel: gwna hwynt â boglynnau o aur o'u hamgylch.

Exodus 28