Exodus 28:27-40 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

27. A gwna ddwy fodrwy o aur, a dod hwynt ar ddau ystlys yr effod oddi tanodd, tua'i thu blaen, ar gyfer ei chydiad, oddi ar wregys yr effod.

28. A'r ddwyfronneg a rwymant â'u modrwyau wrth fodrwyau yr effod â llinyn o sidan glas, fel y byddo oddi ar wregys yr effod, fel na ddatoder y ddwyfronneg oddi wrth yr effod.

29. A dyged Aaron, yn nwyfronneg y farnedigaeth, enwau meibion Israel ar ei galon, pan ddelo i'r cysegr, yn goffadwriaeth gerbron yr Arglwydd yn wastadol.

30. A dod ar ddwyfronneg y farnedigaeth, yr Urim a'r Thummim; a byddant ar galon Aaron pan elo i mewn gerbron yr Arglwydd: ac Aaron a ddwg farnedigaeth meibion Israel ar ei galon, gerbron yr Arglwydd, yn wastadol.

31. Gwna hefyd fantell yr effod oll o sidan glas.

32. A bydd twll yn ei phen uchaf hi, ar ei chanol: gwrym o waith gwehydd o amgylch y twll, megis twll llurig, fydd iddi, rhag rhwygo.

33. A gwna ar ei godre hi bomgranadau o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, ar ei godre o amgylch; a chlych o aur rhyngddynt o amgylch.

34. Cloch aur a phomgranad, a chloch aur a phomgranad, ar odre'r fantell o amgylch.

35. A hi a fydd am Aaron wrth weini: a cheir clywed ei sŵn ef pan ddelo i'r cysegr, gerbron yr Arglwydd, a phan elo allan; fel na byddo farw.

36. Gwna hefyd ddalen o aur coeth; a nadd arni, fel naddiadau sêl, SANCTEIDDRWYDD I'R ARGLWYDD.

37. A gosod hi wrth linyn o sidan glas, a bydded ar y meitr: o'r tu blaen i'r meitr y bydd.

38. A hi a fydd ar dalcen Aaron, fel y dygo Aaron anwiredd y pethau sanctaidd a gysegro meibion Israel yn eu holl roddion sanctaidd: ac yn wastad y bydd ar ei dalcen ef, fel y byddo iddynt ffafr gerbron yr Arglwydd.

39. Gweithia ag edau a nodwydd y bais o liain main; a gwna feitr o liain main; a'r gwregys a wnei o wniadwaith.

40. I feibion Aaron hefyd y gwnei beisiau, a gwna iddynt wregysau; gwna hefyd iddynt gapiau, er gogoniant a harddwch.

Exodus 28