Exodus 27:5-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. A dod hi dan amgylchiad yr allor oddi tanodd, fel y byddo'r rhwyd hyd hanner yr allor.

6. A gwna drosolion i'r allor, sef trosolion o goed Sittim; a gwisg hwynt â phres.

7. A dod ei throsolion trwy'r modrwyau; a bydded y trosolion ar ddau ystlys yr allor, i'w dwyn hi.

8. Gwna hi ag ystyllod yn gau: fel y dangoswyd i ti yn y mynydd, felly y gwnânt hi.

9. A gwna gynteddfa'r tabernacl ar y tu deau, tua'r deau: llenni'r cynteddfa a fyddant liain main cyfrodedd, o gan cufydd o hyd, i un ystlys.

10. A'i hugain colofn, a'u hugain mortais, fydd o bres: pennau y colofnau, a'u cylchau, fydd o arian.

11. Felly o du'r gogledd ar hyd, y bydd llenni o gan cufydd o hyd, a'u hugain colofn, a'u hugain mortais, o bres; a phennau'r colofnau, a'u cylchau, o arian.

12. Ac i led y cynteddfa, o du'r gorllewin, y bydd llenni o ddeg cufydd a deugain: eu colofnau fyddant ddeg, a'u morteisiau yn ddeg.

13. A lled y cynteddfa, tua'r dwyrain, o godiad haul, a fydd ddeg cufydd a deugain.

14. Y llenni o'r naill du a fyddant bymtheg cufydd; eu colofnau yn dair, a'u morteisiau yn dair.

15. Ac i'r ail du y bydd pymtheg llen; eu tair colofn, a'u tair mortais.

16. Ac i borth y cynteddfa y gwneir caeadlen o ugain cufydd, o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, ac o liain main cyfrodedd o wniadwaith; eu pedair colofn, a'u pedair mortais.

17. Holl golofnau'r cynteddfa o amgylch a gylchir ag arian; a'u pennau yn arian, a'u morteisiau yn bres.

18. Hyd y cynteddfa fydd gan cufydd, a'i led yn ddeg a deugain o bob tu; a phum cufydd o uchder o liain main cyfrodedd, a'u morteisiau o bres.

19. Holl lestri'r tabernacl yn eu holl wasanaeth, a'i holl hoelion hefyd, a holl hoelion y cynteddfa, fyddant o bres.

Exodus 27