1. Gwna hefyd allor o goed Sittim, o bum cufydd o hyd, a phum cufydd o led: yn bedeirongl y bydd yr allor, a'i huchder o dri chufydd.
2. A gwna ei chyrn ar ei phedair congl: o'r un y bydd ei chyrn: a gwisg hi â phres.
3. Gwna hefyd iddi bedyll i dderbyn ei lludw, a'i rhawiau, a'i chawgiau, a'i chigweiniau, a'i phedyll tân: ei holl lestri a wnei o bres.
4. A gwna iddi alch o bres, ar waith rhwyd; a gwna ar y rhwyd bedair modrwy o bres ar ei phedair congl.
5. A dod hi dan amgylchiad yr allor oddi tanodd, fel y byddo'r rhwyd hyd hanner yr allor.
6. A gwna drosolion i'r allor, sef trosolion o goed Sittim; a gwisg hwynt â phres.
7. A dod ei throsolion trwy'r modrwyau; a bydded y trosolion ar ddau ystlys yr allor, i'w dwyn hi.
8. Gwna hi ag ystyllod yn gau: fel y dangoswyd i ti yn y mynydd, felly y gwnânt hi.