7. A gwna lenni o flew geifr, i fod yn babell‐len ar y tabernacl: un llen ar ddeg a wnei.
8. Hyd un llen fydd deg cufydd ar hugain, a lled un llen fydd pedwar cufydd; a'r un mesur fydd i'r un llen ar ddeg.
9. A chydia bum llen wrthynt eu hun, a chwe llen wrthynt eu hun; a dybla'r chweched len ar gyfer wyneb y babell‐len.
10. A gwna ddeg dolen a deugain ar ymyl y naill len, ar y cwr, yn y cydiad cyntaf; a deg dolen a deugain ar ymyl y llen arall, yn yr ail gydiad.
11. A gwna ddeg bach a deugain o bres; a dod y bachau yn y dolennau, a chlyma'r babell‐len, fel y byddo yn un.
12. A'r gweddill a fyddo dros ben o lenni'r babell‐len, sef yr hanner llen weddill, a fydd yng ngweddill ar du cefn y tabernacl;
13. Fel y byddo o'r gweddill gufydd o'r naill du, a chufydd o'r tu arall, o hyd y babell‐len: bydded hynny dros ddau ystlys y tabernacl, o'r tu yma ac o'r tu acw, i'w orchuddio.
14. A gwna do i'r babell‐len o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a tho o grwyn daearfoch yn uchaf.
15. A gwna i'r tabernacl ystyllod o goed Sittim, yn eu sefyll.
16. Deg cufydd fydd hyd ystyllen, a chufydd a hanner cufydd fydd lled pob ystyllen.
17. Bydded dau dyno i un bwrdd, wedi eu gosod mewn trefn, bob un ar gyfer ei gilydd: felly y gwnei am holl fyrddau'r tabernacl.
18. A gwna ystyllod i'r tabernacl, ugain ystyllen o'r tu deau tua'r deau.
19. A gwna ddeugain mortais arian dan yr ugain ystyllen; dwy fortais dan un ystyllen i'w dau dyno, a dwy fortais dan ystyllen arall i'w dau dyno.
20. A gwna i ail ystlys y tabernacl, o du'r gogledd, ugain ystyllen,
21. A deugain mortais o arian; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall.