Exodus 26:5-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Deg dolen a deugain a wnei di i un llen, a deg dolen a deugain a wnei ar gwr y llen a fyddo yn yr ail gydiad: y dolennau a dderbyniant bob un ei gilydd.

6. Gwna hefyd ddeg bach a deugain o aur, a chydia â'r bachau y llenni bob un wrth ei gilydd; fel y byddo yn un tabernacl.

7. A gwna lenni o flew geifr, i fod yn babell‐len ar y tabernacl: un llen ar ddeg a wnei.

Exodus 26