20. A bydded y ceriwbiaid yn lledu eu hesgyll i fyny, gan orchuddio'r drugareddfa â'u hesgyll, a'u hwynebau bob un at ei gilydd: tua'r drugareddfa y bydd wynebau y ceriwbiaid.
21. A dod y drugareddfa i fyny ar yr arch, ac yn yr arch dod y dystiolaeth a roddaf i ti.
22. A mi a gyfarfyddaf â thi yno, ac a lefaraf wrthyt oddi ar y drugareddfa, oddi rhwng y ddau geriwb y rhai a fyddant ar arch y dystiolaeth, yr holl bethau a orchmynnwyf wrthyt i feibion Israel.
23. A gwna di fwrdd o goed Sittim, o ddau gufydd ei hyd, a chufydd ei led, a chufydd a hanner ei uchder.
24. A gosod aur coeth drosto, a gwna iddo goron o aur o amgylch.
25. A gwna iddo wregys o led llaw o amgylch, a gwna goron aur ar ei wregys o amgylch.
26. A gwna iddo bedair modrwy o aur, a dod y modrwyau wrth y pedair congl y rhai a fyddant ar ei bedwar troed.
27. Ar gyfer cylch y bydd y modrwyau, yn lleoedd i'r trosolion i ddwyn y bwrdd.
28. A gwna y trosolion o goed Sittim, a gwisg hwynt ag aur, fel y dyger y bwrdd arnynt.
29. A gwna ei ddysglau ef, a'i lwyau, a'i gaeadau, a'i ffiolau, y rhai y tywelltir â hwynt: o aur coeth y gwnei hwynt.
30. A dod ar y bwrdd y bara dangos gerbron fy wyneb yn wastadol.
31. Gwna hefyd ganhwyllbren: o aur pur yn gyfanwaith y gwneir y canhwyllbren; ei baladr, ei geinciau, ei bedyll, ei gnapiau, a'i flodau, a fyddant o'r un.