Exodus 25:14-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. A gosod y trosolion trwy'r modrwyau gan ystlys yr arch, i ddwyn yr arch arnynt.

15. Ym modrwyau yr arch y bydd y trosolion; na symuder hwynt oddi wrthi.

16. A dod yn yr arch y dystiolaeth a roddaf i ti.

17. A gwna drugareddfa o aur coeth, o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei lled.

18. A gwna ddau geriwb o aur; o gyfanwaith morthwyl y gwnei hwynt, yn nau gwr y drugareddfa.

19. Un ceriwb a wnei yn y naill ben, a'r ceriwb arall yn y pen arall: o'r drugareddfa ar ei dau ben hi y gwnewch y ceriwbiaid.

20. A bydded y ceriwbiaid yn lledu eu hesgyll i fyny, gan orchuddio'r drugareddfa â'u hesgyll, a'u hwynebau bob un at ei gilydd: tua'r drugareddfa y bydd wynebau y ceriwbiaid.

21. A dod y drugareddfa i fyny ar yr arch, ac yn yr arch dod y dystiolaeth a roddaf i ti.

22. A mi a gyfarfyddaf â thi yno, ac a lefaraf wrthyt oddi ar y drugareddfa, oddi rhwng y ddau geriwb y rhai a fyddant ar arch y dystiolaeth, yr holl bethau a orchmynnwyf wrthyt i feibion Israel.

23. A gwna di fwrdd o goed Sittim, o ddau gufydd ei hyd, a chufydd ei led, a chufydd a hanner ei uchder.

24. A gosod aur coeth drosto, a gwna iddo goron o aur o amgylch.

25. A gwna iddo wregys o led llaw o amgylch, a gwna goron aur ar ei wregys o amgylch.

26. A gwna iddo bedair modrwy o aur, a dod y modrwyau wrth y pedair congl y rhai a fyddant ar ei bedwar troed.

27. Ar gyfer cylch y bydd y modrwyau, yn lleoedd i'r trosolion i ddwyn y bwrdd.

28. A gwna y trosolion o goed Sittim, a gwisg hwynt ag aur, fel y dyger y bwrdd arnynt.

29. A gwna ei ddysglau ef, a'i lwyau, a'i gaeadau, a'i ffiolau, y rhai y tywelltir â hwynt: o aur coeth y gwnei hwynt.

30. A dod ar y bwrdd y bara dangos gerbron fy wyneb yn wastadol.

Exodus 25