Exodus 25:1-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

2. Dywed wrth feibion Israel, am ddwyn ohonynt i mi offrwm: gan bob gŵr ewyllysgar ei galon y cymerwch fy offrwm.

3. A dyma yr offrwm a gymerwch ganddynt; aur, ac arian, a phres,

4. A sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, a blew geifr,

5. A chrwyn hyrddod yn gochion, a chrwyn daearfoch, a choed Sittim,

6. Olew i'r goleuni, llysieuau i olew yr ennaint, ac i'r perarogl‐darth,

Exodus 25