A Moses a ddaeth, ac a fynegodd i'r bobl holl eiriau yr Arglwydd, a'r holl farnedigaethau. Ac atebodd yr holl bobl yn unair, ac a ddywedasant, Ni a wnawn yr holl eiriau a lefarodd yr Arglwydd.