Exodus 23:9-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Na orthryma'r dieithr: chwi a wyddoch galon y dieithr; oherwydd chwi a fuoch ddieithriaid yn nhir yr Aifft.

10. Chwe blynedd yr heui dy dir, ac y cesgli ei ffrwyth:

11. A'r seithfed paid ag ef, a gad ef yn llonydd; fel y caffo tlodion dy bobl fwyta: a bwytaed bwystfil y maes eu gweddill hwynt. Felly y gwnei am dy winllan, ac am dy olewydden.

12. Chwe diwrnod y gwnei dy waith; ac ar y seithfed dydd y gorffwysi: fel y caffo dy ych a'th asyn lonyddwch, ac y cymero mab dy forwyn gaeth, a'r dieithr ddyn, ei anadl ato.

13. Ac ymgedwch ym mhob peth a ddywedais wrthych: na chofiwch enw duwiau eraill; na chlywer hynny o'th enau.

Exodus 23