Exodus 23:28-33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

28. A mi a anfonaf gacwn o'th flaen, a hwy a yrrant yr Hefiaid, a'r Canaaneaid, a'r Hethiaid, allan o'th flaen di.

29. Ni yrraf hwynt allan o'th flaen di mewn un flwyddyn; rhag bod y wlad yn anghyfannedd, ac i fwystfilod y maes amlhau yn dy erbyn di.

30. O fesur ychydig ac ychydig y gyrraf hwynt allan o'th flaen di, nes i ti gynyddu ac etifeddu'r tir.

31. A gosodaf dy derfyn o'r môr coch hyd fôr y Philistiaid, ac o'r diffeithwch hyd yr afon: canys mi a roddaf yn eich meddiant breswylwyr y tir; a thi a'u gyrri hwynt allan o'th flaen.

32. Na wna amod â hwynt, nac â'u duwiau.

33. Na ad iddynt drigo yn dy wlad; rhag iddynt beri i ti bechu i'm herbyn: canys os gwasanaethi di eu duwiau hwynt, diau y bydd hynny yn dramgwydd i ti.

Exodus 23