Exodus 23:24-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. Nac ymgryma i'w duwiau hwynt, ac na wasanaetha hwynt, ac na wna yn ôl eu gweithredoedd hwynt; ond llwyr ddinistria hwynt, dryllia eu delwau hwynt yn gandryll.

25. A chwi a wasanaethwch yr Arglwydd eich Duw, ac efe a fendithia dy fara, a'th ddwfr; a mi a dynnaf ymaith bob clefyd o'th fysg.

26. Ni bydd yn dy dir di ddim yn erthylu, na heb hilio: mi a gyflawnaf rifedi dy ddyddiau.

27. Mi a anfonaf fy arswyd o'th flaen, ac a ddifethaf yr holl bobl y deui atynt, ac a wnaf i'th holl elynion droi eu gwarrau atat.

28. A mi a anfonaf gacwn o'th flaen, a hwy a yrrant yr Hefiaid, a'r Canaaneaid, a'r Hethiaid, allan o'th flaen di.

29. Ni yrraf hwynt allan o'th flaen di mewn un flwyddyn; rhag bod y wlad yn anghyfannedd, ac i fwystfilod y maes amlhau yn dy erbyn di.

30. O fesur ychydig ac ychydig y gyrraf hwynt allan o'th flaen di, nes i ti gynyddu ac etifeddu'r tir.

31. A gosodaf dy derfyn o'r môr coch hyd fôr y Philistiaid, ac o'r diffeithwch hyd yr afon: canys mi a roddaf yn eich meddiant breswylwyr y tir; a thi a'u gyrri hwynt allan o'th flaen.

32. Na wna amod â hwynt, nac â'u duwiau.

Exodus 23