Exodus 23:13-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Ac ymgedwch ym mhob peth a ddywedais wrthych: na chofiwch enw duwiau eraill; na chlywer hynny o'th enau.

14. Tair gwaith yn y flwyddyn y cedwi ŵyl i mi.

15. Gŵyl y bara croyw a gedwi: saith niwrnod y bwytei fara croyw, fel y gorchmynnais i ti, ar yr amser gosodedig o fis Abib: canys ynddo y daethost allan o'r Aifft: ac nac ymddangosed neb ger fy mron yn waglaw:

16. A gŵyl cynhaeaf blaenffrwyth dy lafur, yr hwn a heuaist yn y maes; a gŵyl y cynnull yn niwedd y flwyddyn, pan gynullech dy lafur o'r maes.

17. Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys dy holl wrywiaid gerbron yr Arglwydd dy Dduw.

18. Nac abertha waed fy aberth gyda bara lefeinllyd; ac nac arhoed braster fy aberth dros nos hyd y bore.

19. Dwg i dŷ'r Arglwydd dy Dduw y cyntaf o flaenffrwyth dy dir. Na ferwa fyn yn llaeth ei fam.

20. Wele fi yn anfon angel o'th flaen i'th gadw ar y ffordd, ac i'th arwain i'r man a baratoais.

Exodus 23