Exodus 22:5-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Os pawr un faes, neu winllan, a gyrru ei anifail i bori maes un arall; taled o'r hyn gorau yn ei faes ei hun, ac o'r hyn gorau yn ei winllan ei hun.

6. Os tân a dyr allan, ac a gaiff afael mewn drain, fel y difaer das o ŷd, neu ŷd ar ei droed, neu faes; cwbl daled yr hwn a gyneuodd y tân.

7. Os rhydd un i'w gymydog arian, neu ddodrefn i gadw, a'i ladrata o dŷ y gŵr; os y lleidr a geir, taled yn ddwbl:

8. Os y lleidr ni cheir, dyger perchennog y tŷ at y swyddogion i dyngu, a estynnodd efe ei law ar dda ei gymydog.

9. Am bob math ar gamwedd, am eidion, am asyn, am ddafad, am ddilledyn, ac am bob peth a gollo yr hwn a ddywedo arall ei fod yn eiddo: deued achos y ddau gerbron y barnwyr; a'r hwn y barno'r swyddogion yn ei erbyn, taled i'w gymydog yn ddwbl.

10. Os rhydd un asyn, neu eidion, neu ddafad, neu un anifail, at ei gymydog i gadw, a marw ohono, neu ei friwo, neu ei yrru ymaith heb neb yn gweled:

11. Bydded llw yr Arglwydd rhyngddynt ill dau, na roddes efe ei law at dda ei gymydog; a chymered ei berchennog hynny, ac na wnaed y llall iawn.

12. Ac os gan ladrata y lladrateir ef oddi wrtho; gwnaed iawn i'w berchennog.

13. Os gan ysglyfaethu yr ysglyfaethir ef; dyged ef yn dystiolaeth, ac na thaled am yr hwn a ysglyfaethwyd.

14. Ond os benthycia un gan ei gymydog ddim, a'i friwo, neu ei farw, heb fod ei berchennog gydag ef; gan dalu taled.

15. Os ei berchennog fydd gydag ef, na thaled: os llog yw efe, am ei log y daeth.

Exodus 22