Exodus 22:22-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. Na chystuddiwch un weddw, nac amddifad.

23. Os cystuddiwch hwynt mewn un modd, a gweiddi ohonynt ddim arnaf; mi a lwyr wrandawaf eu gwaedd hwynt;

24. A'm digofaint a ennyn, a mi a'ch lladdaf â'r cleddyf; a bydd eich gwragedd yn weddwon, a'ch plant yn amddifaid.

25. Os echwynni arian i'm pobl sydd dlawd yn dy ymyl, na fydd fel ocrwr iddynt: na ddod usuriaeth arnynt.

26. Os cymeri ddilledyn dy gymydog ar wystl, dyro ef adref iddo erbyn machludo haul:

27. Oherwydd hynny yn unig sydd i'w roddi arno ef; hwnnw yw ei ddilledyn am ei groen ef: mewn pa beth y gorwedd? A bydd, os gwaedda efe arnaf, i mi wrando; canys trugarog ydwyf fi.

28. Na chabla'r swyddogion; ac na felltithia bennaeth dy bobl.

29. Nac oeda dalu y cyntaf o'th ffrwythau aeddfed, ac o'th bethau gwlybion: dod i mi y cyntaf‐anedig o'th feibion.

30. Felly y gwnei am dy eidion, ac am dy ddafad; saith niwrnod y bydd gyda'i fam, a'r wythfed dydd y rhoddi ef i mi.

31. A byddwch yn ddynion sanctaidd i mi: ac na fwytewch gig wedi ei ysglyfaethu yn y maes; teflwch ef i'r ci.

Exodus 22