Exodus 22:21-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. Na orthryma, ac na flina y dieithr: canys dieithriaid fuoch chwithau yn nhir yr Aifft.

22. Na chystuddiwch un weddw, nac amddifad.

23. Os cystuddiwch hwynt mewn un modd, a gweiddi ohonynt ddim arnaf; mi a lwyr wrandawaf eu gwaedd hwynt;

24. A'm digofaint a ennyn, a mi a'ch lladdaf รข'r cleddyf; a bydd eich gwragedd yn weddwon, a'ch plant yn amddifaid.

25. Os echwynni arian i'm pobl sydd dlawd yn dy ymyl, na fydd fel ocrwr iddynt: na ddod usuriaeth arnynt.

Exodus 22