Exodus 22:2-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Os ceir lleidr yn torri tŷ, a'i daro fel y byddo farw; na choller gwaed amdano.

3. Os bydd yr haul wedi codi arno, coller gwaed amdano; efe a ddyly gwbl dalu: oni bydd dim ganddo, gwerther ef am ei ladrad.

4. Os gan gael y ceir yn ei law ef y lladrad yn fyw, o eidion, neu asyn, neu ddafad; taled yn ddwbl.

Exodus 22