Exodus 22:14-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Ond os benthycia un gan ei gymydog ddim, a'i friwo, neu ei farw, heb fod ei berchennog gydag ef; gan dalu taled.

15. Os ei berchennog fydd gydag ef, na thaled: os llog yw efe, am ei log y daeth.

16. Ac os huda un forwyn yr hon ni ddyweddïwyd, a gorwedd gyda hi; gan gynysgaeddu cynysgaedded hi yn wraig iddo ei hun.

17. Os ei thad a lwyr wrthyd ei rhoddi hi iddo taled arian yn ôl gwaddol morynion.

18. Na chaffed hudoles fyw.

19. Llwyr rodder i farwolaeth bob un a orweddo gydag anifail.

20. Lladder yn farw a abertho i dduwiau, onid i'r Arglwydd yn unig.

21. Na orthryma, ac na flina y dieithr: canys dieithriaid fuoch chwithau yn nhir yr Aifft.

22. Na chystuddiwch un weddw, nac amddifad.

23. Os cystuddiwch hwynt mewn un modd, a gweiddi ohonynt ddim arnaf; mi a lwyr wrandawaf eu gwaedd hwynt;

24. A'm digofaint a ennyn, a mi a'ch lladdaf â'r cleddyf; a bydd eich gwragedd yn weddwon, a'ch plant yn amddifaid.

25. Os echwynni arian i'm pobl sydd dlawd yn dy ymyl, na fydd fel ocrwr iddynt: na ddod usuriaeth arnynt.

26. Os cymeri ddilledyn dy gymydog ar wystl, dyro ef adref iddo erbyn machludo haul:

27. Oherwydd hynny yn unig sydd i'w roddi arno ef; hwnnw yw ei ddilledyn am ei groen ef: mewn pa beth y gorwedd? A bydd, os gwaedda efe arnaf, i mi wrando; canys trugarog ydwyf fi.

Exodus 22