Exodus 21:8-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Os heb ryglyddu bodd yng ngolwg ei meistr y bydd hi, yr hwn a'i cymerodd hi yn ddyweddi; yna gadawed ei hadbrynu hi: ni bydd rhydd iddo ei gwerthu hi i bobl ddieithr, wedi iddo ef ei thwyllo hi.

9. Ac os i'w fab y dyweddiodd efe hi, gwnaed iddi yn ôl deddf y merched.

10. Ac os arall a brioda efe, na wnaed yn llai ei hymborth, ei dillad, na'i dyled priodas.

11. Ac os y tri hyn nis gwna efe iddi; yna aed hi allan yn rhad heb arian.

12. Rhodder i farwolaeth y neb a drawo ŵr, fel y byddo marw.

13. Ond yr hwn ni chynllwynodd, ond rhoddi o Dduw ef yn ei law ef, mi a osodaf i ti fan lle y caffo ffoi.

14. Ond os daw dyn yn rhyfygus ar ei gymydog, i'w ladd ef trwy dwyll; cymer ef i farwolaeth oddi wrth fy allor.

15. Y neb a drawo ei dad, neu ei fam, rhodder ef i farwolaeth.

16. Yr hwn a ladratao ddyn, ac a'i gwertho, neu os ceir ef yn ei law ef, rhodder ef i farwolaeth.

17. Rhodder i farwolaeth yr hwn a felltithio ei dad, neu ei fam.

18. A phan ymrysono dynion, a tharo o'r naill y llall â charreg, neu â dwrn, ac efe heb farw, ond gorfod iddo orwedd;

19. Os cyfyd efe, a rhodio allan wrth ei ffon; yna y trawydd a fydd dihangol: yn unig rhodded ei golled am ei waith, a chan feddyginiaethu meddyginiaethed ef.

Exodus 21