25. Llosg am losg, archoll am archoll, a chlais am glais.
26. Os tery un lygad ei wasanaethwr, neu lygad ei wasanaethferch, fel y llygro ef; gollynged ef yn rhydd am ei lygad:
27. Ac os tyr efe ymaith ddant ei wasanaethwr, neu ddant ei wasanaethferch; gollynged ef yn rhydd am ei ddant.
28. Ac os ych a gornia ŵr neu wraig, fel y byddo farw: gan labyddio llabyddier yr ych, ac na fwytaer ei gig ef; ac aed perchen yr ych yn rhydd.
29. Ond os yr ych oedd yn cornio o'r blaen, a hynny trwy dystion wedi ei hysbysu i'w berchennog; ac efe heb ei gadw ef, ond lladd ohono ŵr neu wraig: yr ych a labyddir, a'i berchennog a roddir i farwolaeth hefyd.
30. Os iawn a roddir arno, rhodded werth am ei einioes, yn ôl yr hyn oll a osoder arno.
31. Os mab a gornia efe, neu ferch a gornia efe; gwneler iddo yn ôl y farnedigaeth hon.