Exodus 21:18-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. A phan ymrysono dynion, a tharo o'r naill y llall â charreg, neu â dwrn, ac efe heb farw, ond gorfod iddo orwedd;

19. Os cyfyd efe, a rhodio allan wrth ei ffon; yna y trawydd a fydd dihangol: yn unig rhodded ei golled am ei waith, a chan feddyginiaethu meddyginiaethed ef.

20. Ac os tery un ei wasanaethwr, neu ei wasanaethferch, â gwialen, fel y byddo farw dan ei law ef; gan ddial dialer arno.

21. Ond os erys ddiwrnod, neu ddau ddiwrnod, na ddialer arno; canys gwerth ei arian ei hun ydoedd efe.

22. Ac os ymrafaelia dynion, a tharo ohonynt wraig feichiog, fel yr êl ei beichiogi oddi wrthi, ac heb fod marwolaeth: gan gosbi cosber ef, fel y gosodo gŵr y wraig arno; a rhodded hynny trwy farnwyr.

23. Ac os marwolaeth fydd; rhodder einioes am einioes,

24. Llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed,

25. Llosg am losg, archoll am archoll, a chlais am glais.

26. Os tery un lygad ei wasanaethwr, neu lygad ei wasanaethferch, fel y llygro ef; gollynged ef yn rhydd am ei lygad:

27. Ac os tyr efe ymaith ddant ei wasanaethwr, neu ddant ei wasanaethferch; gollynged ef yn rhydd am ei ddant.

28. Ac os ych a gornia ŵr neu wraig, fel y byddo farw: gan labyddio llabyddier yr ych, ac na fwytaer ei gig ef; ac aed perchen yr ych yn rhydd.

Exodus 21