Exodus 20:5-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Nac ymgryma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr Arglwydd dy Dduw, wyf Dduw eiddigus; yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'm casânt;

6. Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o'r rhai a'm carant, ac a gadwant fy ngorchmynion.

7. Na chymer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer: canys nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymero ei enw ef yn ofer.

8. Cofia y dydd Saboth, i'w sancteiddio ef.

9. Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith:

Exodus 20