Exodus 20:18-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. A'r holl bobl a welsant y taranau, a'r mellt, a sain yr utgorn, a'r mynydd yn mygu: a phan welodd y bobl, ciliasant, a safasant o hirbell.

19. A dywedasant wrth Moses, Llefara di wrthym ni, a nyni a wrandawn: ond na lefared Duw wrthym, rhag i ni farw.

20. A dywedodd Moses wrth y bobl, Nac ofnwch; oherwydd i'ch profi chwi y daeth Duw, ac i fod ei ofn ef ger eich bronnau, fel na phechech.

21. A safodd y bobl o hirbell; a nesaodd Moses i'r tywyllwch, lle yr ydoedd Duw.

22. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Fel hyn y dywedi wrth feibion Israel; Chwi a welsoch mai o'r nefoedd y lleferais wrthych.

23. Na wnewch gyda mi dduwiau arian, ac na wnewch i chwi dduwiau aur.

24. Gwna i mi allor bridd, ac abertha arni dy boethebyrth a'th offrymau hedd, dy ddefaid, a'th eidionau: ym mhob man lle y rhoddwyf goffadwriaeth o'm henw, y deuaf atat, ac y'th fendithiaf.

25. Ond os gwnei i mi allor gerrig, na wna hi o gerrig nadd: pan gotech dy forthwyl arni, ti a'i halogaist hi.

Exodus 20