Exodus 20:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Duw a lefarodd yr holl eiriau hyn, gan ddywedyd,

2. Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a'th ddug di allan o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed.

3. Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i.

4. Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a'r y sydd yn y nefoedd uchod, nac a'r y sydd yn y ddaear isod, nac a'r sydd yn y dwfr tan y ddaear.

5. Nac ymgryma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr Arglwydd dy Dduw, wyf Dduw eiddigus; yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'm casânt;

6. Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o'r rhai a'm carant, ac a gadwant fy ngorchmynion.

7. Na chymer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer: canys nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymero ei enw ef yn ofer.

8. Cofia y dydd Saboth, i'w sancteiddio ef.

9. Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith:

10. Ond y seithfed dydd yw Saboth yr Arglwydd dy Dduw: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na'th fab, na'th ferch, na'th wasanaethwr, na'th wasanaethferch, na'th anifail, na'th ddieithr ddyn a fyddo o fewn dy byrth:

11. Oherwydd mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd y nefoedd a'r ddaear, y môr, a'r hyn oll sydd ynddynt; ac a orffwysodd y seithfed dydd: am hynny y bendithiodd yr Arglwydd y dydd Saboth, ac a'i sancteiddiodd ef.

Exodus 20