Exodus 2:14-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. A dywedodd yntau, Pwy a'th osododd di yn bennaeth ac yn frawdwr arnom ni? ai meddwl yr wyt ti fy lladd i, megis y lleddaist yr Eifftiad? A Moses a ofnodd, ac a ddywedodd, Diau y gwyddir y peth hyn.

15. Pan glybu Pharo y peth hyn, efe a geisiodd ladd Moses: ond Moses a ffodd rhag Pharo, ac a arhosodd yn nhir Midian; ac a eisteddodd wrth bydew.

16. Ac i offeiriad Midian yr ydoedd saith o ferched: a'r rhai hynny a ddaethant ac a dynasant ddwfr, ac a lanwasant y cafnau i ddyfrhau defaid eu tad.

17. Ond y bugeiliaid a ddaethant ac a'u gyrasant ymaith: yna y cododd Moses, ac a'u cynorthwyodd hwynt, ac a ddyfrhaodd eu praidd hwynt.

18. Yna y daethant at Reuel eu tad: ac efe a ddywedodd, Paham y daethoch heddiw cyn gynted?

19. A hwy a ddywedasant, Eifftwr a'n hachubodd ni o law y bugeiliaid; a chan dynnu a dynnodd ddwfr hefyd i ni, ac a ddyfrhaodd y praidd.

20. Ac efe a ddywedodd wrth ei ferched, Pa le y mae efe? paham y gollyngasoch ymaith y gŵr? Gelwch arno, a bwytaed fara.

21. A bu Moses fodlon i drigo gyda'r gŵr: ac yntau a roddodd Seffora ei ferch i Moses.

22. A hi a esgorodd ar fab; ac efe a alwodd ei enw ef Gersom: Oherwydd dieithr (eb efe) a fûm i mewn gwlad ddieithr.

Exodus 2