4. A Moses a lefodd ar yr Arglwydd, gan ddywedyd, Beth a wnaf i'r bobl hyn? ar ben ychydig eto hwy a'm llabyddiant i.
5. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cerdda o flaen y bobl, a chymer gyda thi o henuriaid Israel: cymer hefyd dy wialen yn dy law, yr hon y trewaist yr afon â hi, a cherdda.
6. Wele, mi a safaf o'th flaen yno ar y graig yn Horeb; taro dithau y graig, a daw dwfr allan ohoni, fel y gallo'r bobl yfed. A Moses a wnaeth felly yng ngolwg henuriaid Israel.
7. Ac efe a alwodd enw y lle Massa, a Meriba; o achos cynnen meibion Israel, ac am iddynt demtio'r Arglwydd, gan ddywedyd, A ydyw yr Arglwydd yn ein plith, ai nid yw?
8. Yna y daeth Amalec, ac a ymladdodd ag Israel yn Reffidim.
9. A dywedodd Moses wrth Josua, Dewis i ni wŷr, a dos allan ac ymladd ag Amalec: yfory mi a safaf ar ben y bryn, â gwialen Duw yn fy llaw.
10. Felly Josua a wnaeth fel y dywedodd Moses wrtho; ac a ymladdodd ag Amalec: a Moses, Aaron, a Hur a aethant i fyny i ben y bryn.
11. A phan godai Moses ei law, y byddai Israel yn drechaf; a phan ollyngai ei law i lawr, Amalec a fyddai drechaf.
12. A dwylo Moses oedd drymion; a hwy a gymerasant faen, ac a'i gosodasant dano ef; ac efe a eisteddodd arno: ac Aaron a Hur a gynaliasant ei ddwylo ef, un ar y naill du, a'r llall ar y tu arall; felly y bu ei ddwylo ef sythion nes machludo yr haul.
13. A Josua a orchfygodd Amalec a'i bobl â min y cleddyf.