10. Felly Josua a wnaeth fel y dywedodd Moses wrtho; ac a ymladdodd ag Amalec: a Moses, Aaron, a Hur a aethant i fyny i ben y bryn.
11. A phan godai Moses ei law, y byddai Israel yn drechaf; a phan ollyngai ei law i lawr, Amalec a fyddai drechaf.
12. A dwylo Moses oedd drymion; a hwy a gymerasant faen, ac a'i gosodasant dano ef; ac efe a eisteddodd arno: ac Aaron a Hur a gynaliasant ei ddwylo ef, un ar y naill du, a'r llall ar y tu arall; felly y bu ei ddwylo ef sythion nes machludo yr haul.
13. A Josua a orchfygodd Amalec a'i bobl â min y cleddyf.
14. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Ysgrifenna hyn mewn llyfr, yn goffadwriaeth; a mynega i Josua: canys gan ddileu y dileaf goffadwriaeth Amalec oddi tan y nefoedd.
15. A Moses a adeiladodd allor, ac a alwodd ei henw hi JEHOFAH‐Nissi.
16. Canys efe a ddywedodd, Oherwydd tyngu o'r Arglwydd, y bydd i'r Arglwydd ryfel yn erbyn Amalec o genhedlaeth i genhedlaeth.