Exodus 16:22-36 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. Ac ar y chweched dydd y casglent ddau cymaint o fara, dau omer i un: a holl benaethiaid y gynulleidfa a ddaethant ac a fynegasant i Moses.

23. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hyn yw y peth a lefarodd yr Arglwydd; Yfory y mae gorffwysfa Saboth sanctaidd i'r Arglwydd: pobwch heddiw yr hyn a boboch, a berwch yr hyn a ferwoch; a'r holl weddill, rhoddwch i gadw i chwi hyd y bore.

24. A hwy a'i cadwasant hyd y bore, fel y gorchmynasai Moses: ac ni ddrewodd, ac nid oedd pryf ynddo.

25. A dywedodd Moses, Bwytewch hwn heddiw; oblegid Saboth yw heddiw i'r Arglwydd: ni chewch hwn yn y maes heddiw.

26. Chwe diwrnod y cesglwch chwi ef; ond ar y seithfed dydd, yr hwn yw y Saboth, ni bydd efe.

27. Eto rhai o'r bobl a aethant allan ar y seithfed dydd, i gasglu; ond ni chawsant ddim.

28. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Pa hyd y gwrthodwch gadw fy ngorchmynion a'm cyfreithiau?

29. Gwelwch mai yr Arglwydd a roddodd i chwi y Saboth; am hynny efe a roddodd i chwi y chweched dydd fara dros ddau ddydd: arhoswch bawb gartref; nac aed un o'i le y seithfed dydd.

30. Felly y bobl a orffwysasant y seithfed dydd.

31. A thŷ Israel a alwasant ei enw ef Manna: ac yr oedd efe fel had coriander, yn wyn, a'i flas fel afrllad o fêl.

32. A Moses a ddywedodd, Dyma y peth a orchmynnodd yr Arglwydd; Llanw omer ohono, i'w gadw i'ch cenedlaethau; fel y gwelont y bara y porthais chwi ag ef yn yr anialwch, pan y'ch dygais allan o wlad yr Aifft.

33. A Moses a ddywedodd wrth Aaron, Cymer grochan, a dod ynddo lonaid omer o'r manna; a gosod ef gerbron yr Arglwydd yng nghadw i'ch cenedlaethau.

34. Megis y gorchmynnodd yr Arglwydd i Moses, felly y gosododd Aaron ef i gadw gerbron y dystiolaeth.

35. A meibion Israel a fwytasant y manna ddeugain mlynedd, nes eu dyfod i dir cyfanheddol: manna a fwytasant nes eu dyfod i gwr gwlad Canaan.

36. A'r omer ydoedd ddegfed ran effa.

Exodus 16