Exodus 15:12-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Estynnaist dy ddeheulaw; llyncodd y ddaear hwynt.

13. Arweiniaist yn dy drugaredd y bobl y rhai a waredaist: yn dy nerth y tywysaist hwynt i anheddle dy sancteiddrwydd.

14. Y bobloedd a glywant, ac a ofnant: dolur a ddeil breswylwyr Palesteina.

15. Yna y synna ar ddugiaid Edom: cedyrn hyrddod Moab, dychryn a'u deil hwynt: holl breswylwyr Canaan a doddant ymaith.

16. Ofn ac arswyd a syrth arnynt; gan fawredd dy fraich y tawant fel carreg, nes myned trwodd o'th bobl di, Arglwydd, nes myned o'r bobl a enillaist ti trwodd.

17. Ti a'u dygi hwynt i mewn, ac a'u plenni hwynt ym mynydd dy etifeddiaeth, y lle a wnaethost, O Arglwydd, yn anheddle i ti; y cysegr, Arglwydd, a gadarnhaodd dy ddwylo.

18. Yr Arglwydd a deyrnasa byth ac yn dragywydd.

19. Oherwydd meirch Pharo, a'i gerbydau, a'i farchogion, a aethant i'r môr; a'r Arglwydd a ddychwelodd ddyfroedd y môr arnynt: ond meibion Israel a aethant ar dir sych yng nghanol y môr.

20. A Miriam y broffwydes, chwaer Aaron, a gymerodd dympan yn ei llaw, a'r holl wragedd a aethant allan ar ei hôl hi, â thympanau ac â dawnsiau.

21. A dywedodd Miriam wrthynt, Cenwch i'r Arglwydd; canys gwnaeth yn ardderchog; bwriodd y march a'r marchog i'r môr.

22. Yna Moses a ddug Israel oddi wrth y môr coch; ac aethant allan i anialwch Sur: a hwy a gerddasant dri diwrnod yn yr anialwch, ac ni chawsant ddwfr.

Exodus 15