Exodus 12:24-36 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. A chwi a gedwch y peth hyn yn ddeddf i ti, ac i'th feibion yn dragywydd.

25. A phan ddeloch i'r wlad a rydd yr Arglwydd i chwi, megis yr addawodd, yna cedwch y gwasanaeth hwn.

26. A bydd, pan ddywedo eich meibion wrthych, Pa wasanaeth yw hwn gennych?

27. Yna y dywedwch, Aberth Pasg yr Arglwydd ydyw, yr hwn a aeth heibio i dai meibion Israel yn yr Aifft, pan drawodd efe yr Eifftiaid, ac yr achubodd ein tai ni. Yna yr ymgrymodd y bobl, ac yr addolasant.

28. A meibion Israel a aethant ymaith, ac a wnaethant megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron; felly y gwnaethant.

29. Ac ar hanner nos y trawodd yr Arglwydd bob cyntaf‐anedig yng ngwlad yr Aifft, o gyntaf‐anedig Pharo yr hwn a eisteddai ar ei frenhinfainc, hyd gyntaf‐anedig y gaethes oedd yn y carchardy; a phob cyntaf‐anedig i anifail.

30. A Pharo a gyfododd liw nos, efe a'i holl weision, a'r holl Eifftiaid; ac yr oedd gweiddi mawr yn yr Aifft: oblegid nid oedd dŷ a'r nad ydoedd un marw ynddo.

31. Ac efe a alwodd ar Moses ac Aaron liw nos, ac a ddywedodd, Codwch, ewch allan o fysg fy mhobl, chwi a meibion Israel hefyd; ac ewch, a gwasanaethwch yr Arglwydd, fel y dywedasoch.

32. Cymerwch eich defaid, a'ch gwartheg hefyd, fel y dywedasoch, ac ewch ymaith, a bendithiwch finnau.

33. A'r Eifftiaid a fuant daerion ar y bobl, gan eu gyrru ar ffrwst allan o'r wlad; oblegid dywedasant, Dynion meirw ydym ni oll.

34. A'r bobl a gymerodd eu toes cyn ei lefeinio, a'u toes oedd wedi ei rwymo yn eu dillad ar eu hysgwyddau.

35. A meibion Israel a wnaethant yn ôl gair Moses; ac a fenthyciasant gan yr Eifftiaid dlysau arian, a thlysau aur, a gwisgoedd.

36. A'r Arglwydd a roddasai i'r bobl hawddgarwch yng ngolwg yr Eifftiaid, fel yr echwynasant iddynt: a hwy a ysbeiliasant yr Eifftiaid.

Exodus 12