10. Ac na weddillwch ddim ohono hyd y bore: a'r hyn fydd yng ngweddill ohono erbyn y bore, llosgwch yn tân.
11. Ac fel hyn y bwytewch ef; wedi gwregysu eich lwynau, a'ch esgidiau am eich traed, a'ch ffyn yn eich dwylo: a bwytewch ef ar ffrwst; Pasg yr Arglwydd ydyw efe.
12. Oherwydd mi a dramwyaf trwy wlad yr Aifft y nos hon, ac a drawaf bob cyntaf‐anedig o fewn tir yr Aifft, yn ddyn ac yn anifail; a mi a wnaf farn yn erbyn holl dduwiau yr Aifft: myfi yw yr Arglwydd.
13. A'r gwaed fydd i chwi yn arwydd ar y tai lle byddoch chwi; a phan welwyf y gwaed, yna yr af heibio i chwi, ac ni bydd pla dinistriol arnoch chwi, pan drawyf dir yr Aifft.
14. A'r dydd hwn fydd yn goffadwriaeth i chwi; a chwi a'i cedwch ef yn ŵyl i'r Arglwydd trwy eich cenedlaethau: cedwch ef yn ŵyl trwy ddeddf dragwyddol.
15. Saith niwrnod y bwytewch fara croyw; y dydd cyntaf y bwriwch surdoes allan o'ch tai: oherwydd pwy bynnag a fwytao fara lefeinllyd o'r dydd cyntaf hyd y seithfed dydd, yr enaid hwnnw a dorrir ymaith oddi wrth Israel.
16. Ar y dydd cyntaf hefyd y bydd i chwi gymanfa sanctaidd, a chymanfa sanctaidd ar y seithfed dydd: dim gwaith ni wneir ynddynt, onid yr hyn a fwyty pob dyn, hynny yn unig a ellwch ei wneuthur.
17. Cedwch hefyd ŵyl y bara croyw; oherwydd o fewn corff y dydd hwn y dygaf eich lluoedd chwi allan o wlad yr Aifft: am hynny cedwch y dydd hwn yn eich cenedlaethau, trwy ddeddf dragwyddol.
18. Yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis yn yr hwyr, y bwytewch fara croyw, hyd yr unfed dydd ar hugain o'r mis yn yr hwyr.
19. Na chaffer surdoes yn eich tai saith niwrnod: canys pwy bynnag a fwytao fara lefeinllyd, yr enaid hwnnw a dorrir ymaith o gynulleidfa Israel, yn gystal y dieithr a'r priodor.
20. Na fwytewch ddim lefeinllyd: bwytewch fara croyw yn eich holl drigfannau.
21. A galwodd Moses am holl henuriaid Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Tynnwch a chymerwch i chwi oen yn ôl eich teuluoedd, a lleddwch y Pasg.
22. A chymerwch dusw o isop, a throchwch ef yn y gwaed a fyddo yn y cawg, a rhoddwch ar gapan y drws, ac ar y ddau ystlysbost, o'r gwaed a fyddo yn y cawg; ac nac aed neb ohonoch allan o ddrws ei dŷ hyd y bore.
23. Oherwydd yr Arglwydd a dramwya i daro'r Eifftiaid: a phan welo efe y gwaed ar gapan y drws, ac ar y ddau ystlysbost, yna yr Arglwydd a â heibio i'r drws, ac ni ad i'r dinistrydd ddyfod i mewn i'ch tai chwi i ddinistrio.
24. A chwi a gedwch y peth hyn yn ddeddf i ti, ac i'th feibion yn dragywydd.