Exodus 11:8-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. A'th holl weision hyn a ddeuant i waered ataf fi, ac a ymgrymant i mi, gan ddywedyd, Dos allan, a'r holl bobl sydd ar dy ôl; ac wedi hynny yr af fi allan. Felly efe a aeth allan oddi wrth Pharo mewn dicllonedd llidiog.

9. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Ni wrendy Pharo arnoch; fel yr amlhaer fy rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft.

10. A Moses ac Aaron a wnaethant yr holl ryfeddodau hyn gerbron Pharo: a'r Arglwydd a galedodd galon Pharo, fel na ollyngai efe feibion Israel allan o'i wlad.

Exodus 11