4. Moses hefyd a ddywedodd, Fel hyn y llefarodd yr Arglwydd; Ynghylch hanner nos yr af fi allan i ganol yr Aifft.
5. A phob cyntaf‐anedig yng ngwlad yr Aifft a fydd marw, o gyntaf‐anedig Pharo, yr hwn sydd yn eistedd ar ei deyrngadair, hyd gyntaf‐anedig y wasanaethferch sydd ar ôl y felin; a phob cyntaf‐anedig o anifail.
6. A bydd gweiddi mawr trwy holl wlad yr Aifft, yr hwn ni bu ei fath, ac ni bydd mwyach ei gyffelyb.
7. Ond yn erbyn neb o blant Israel ni symud ci ei dafod, ar ddyn nac anifail; fel y gwypoch fod yr Arglwydd yn gwneuthur rhagor rhwng yr Eifftiaid ac Israel.
8. A'th holl weision hyn a ddeuant i waered ataf fi, ac a ymgrymant i mi, gan ddywedyd, Dos allan, a'r holl bobl sydd ar dy ôl; ac wedi hynny yr af fi allan. Felly efe a aeth allan oddi wrth Pharo mewn dicllonedd llidiog.
9. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Ni wrendy Pharo arnoch; fel yr amlhaer fy rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft.
10. A Moses ac Aaron a wnaethant yr holl ryfeddodau hyn gerbron Pharo: a'r Arglwydd a galedodd galon Pharo, fel na ollyngai efe feibion Israel allan o'i wlad.